Dod â chosbi corfforol i ben yng Nghymru

Mae diogelu plant a'u hawliau yn caniatáu iddyn nhw gael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru ac mae’r gyfraith yma'n berthnasol i bawb ac yn cynnwys unrhyw un sydd â chyfrifoldeb am blentyn tra bod y rhiant yn absennol. Dyma foment hanesyddol i blant a’u hawliau, gan ddod â chosbi corfforol i ben ar 21 Mawrth 2022.

Beth yw Cosbi Corfforol?

Cosbi corfforol yw pan fydd grym corfforol wedi'i ddefnyddio i gosbi plentyn. Mae yna wahanol fathau, ac mae rhai enghreifftiau yn cynnwys taro, ysgwyd, a rhoi clatsien.

Mae modd i gosb gorfforol frifo plentyn, yn ogystal â gwneud iddo deimlo tristwch, dicter, dryswch ac ofn. Bydd plant wedyn yn credu ei bod yn dderbyniol bod yn dreisgar tuag at eraill.

Beth yw'r Gyfraith ar Gosbi Corfforol yng Nghymru?

  • Mae cosbi corfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru
  • Mae gan blant yr un hawliau ac amddiffyniad ag oedolion
  • Mae'n dod ag eglurder, gan fod gan blant yr un hawl ag oedolion, ac mae bellach yn glir i blant, rhieni, y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ei ddeall.

Oes modd i fi ddisgyblu fy mhlentyn o hyd?

Oes, mae disgyblaeth yn rhan hanfodol o rianta da. Mae'n ymwneud â gosod ffiniau a chefnogi'ch plentyn i ddysgu ymddygiad priodol. Dydy cosbi corfforol ddim yn angenrheidiol, ac nid yw'n helpu plant i ddysgu am fod â hunanreolaeth a beth sy'n ymddygiad derbyniol.

Beth sy'n digwydd os bydd rhywun yn cosbi'r plentyn yn gorfforol?

  • Byddan nhw'n torri'r gyfraith
  • Mae risg y byddan nhw'n cael eu cyhuddo o ymosod, neu eu harestio
  • Mae'n bosibl y bydd hyn yn arwain at gofnod troseddol

 phwy ydw i'n cysylltu?

Os ydych chi'n pryderu am blentyn neu'n gweld plentyn yn cael ei gosbi'n gorfforol, cysylltwch â'r Gwasanaethau i Blant. Weithiau does dim angen gweithredu ymhellach ar ymholiadau, ond mae'n well trafod pryderon nag anwybyddu arwyddion rhybudd posibl a allai beryglu plentyn.

I gael rhagor o wybodaeth am ba wybodaeth sydd ei hangen arnoch i roi gwybod am bryder a beth fydd yn digwydd nesaf, ewch i - Rhoi Gwybod am Achos Amddiffyn Plant | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Mae modd i chi hefyd roi gwybod am droseddau nad ydyn nhw'n rhai brys drwy ffonio 101 neu drwy lenwi Ffurflen ar-lein Heddlu De Cymru.

Fel arall, mewn argyfwng, mae modd i chi ffonio'r heddlu ar 999 os yw plentyn mewn perygl uniongyrchol.

Deg Awgrym Da ar gyfer Atal

1.     Lluniwch drefn arferion ar gyfer plant ac ystyriwch beth sy'n gweithio i'ch teulu chi. 

2.     Gofalwch bod y gofal plant cywir gyda chi – gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymddiried yn y person rydych chi'n gadael eich plentyn ag ef neu hi.

3.     Cymerwch amser i ganmol eich plentyn gan fod hyn yn gweithio'n well na'i gosbi am ei ymddygiad. 

4.     Modelwch yr ymddygiad yr hoffech chi ei weld. Os bydd plentyn yn gweld oedolion yn gweiddi ac yn taro, bydd yn meddwl bod hyn yn dderbyniol.

5.     Byddwch yn feithringar – mae pob plentyn yn haeddu cael ei garu a chael derbyn gofal.

6.     Rhowch ddisgyblaeth yn gywir gan ddefnyddio'r ymddygiad priodol.

7.     Sicrhewch fod gyda chi rwydwaith cryf o gymorth gan deulu a ffrindiau rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw.

8.     Sicrhewch fod gyda chi reolau teulu clir sy'n gweithio'n dda i'ch teulu chi.

9.     Cysylltwch deimlad â'r ymddygiad, e.e. “Rwy'n meddwl dy fod di'n taflu teganau gan dy fod di'n grac”.

10. Rhowch wybod i’ch awdurdod lleol neu’r heddlu mewn argyfwng os ydych chi'n amau bod plentyn yn cael ei gam-drin neu esgeuluso.

Cyngor a Chymorth

Bwriwch olwg ar ein gwefan am wybodaeth, cymorth a chefnogaeth - Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth.

Mae modd i chi hefyd fwrw golwg ar wefan y llywodraeth, Magu Plant. Rhowch Amser Iddo
Wedi ei bostio ar 19/01/2024

Rhagor o newyddion