Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth

Pwy ydyn ni? 

Mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth wedi'i gynllunio i nodi teuluoedd sydd angen cymorth ar yr adeg gywir. Ein nod yw cynnig asesiad i deuluoedd a fydd yn ceisio nodi'r gwasanaethau cywir i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Rydyn ni'n cynnig cymorth ac arweiniad cyflym ac effeithiol i helpu teuluoedd i oresgyn y problemau maen nhw o bosibl yn eu cael gyda'i gilydd. Ein nod yw eich helpu chi i ddysgu'r ffyrdd gorau o ddod yn wydn a gwella'r ffordd rydych chi'n dod trwy gyfnodau anodd wrth iddyn nhw ddigwydd, hyd yn oed ar ôl i'r cymorth ddod i ben. 

Sut mae'n gweithio? 

Mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn rhan o'r Gwasanaethau i Blant, ac mae'n cynnwys y pedair carfan ganlynol: 

Mae'r Garfan Asesu, Broceriaeth ac Adolygu yn darparu ymateb amserol i atgyfeiriadau drwy gynnal asesiadau cymesur sy'n canolbwyntio ar lefelau gwydnwch teulu. Bydd yr wybodaeth sy'n cael ei chasglu yn cael ei defnyddio i lywio Cynllun Teulu sy'n anelu at gynyddu lefelau gwydnwch teulu a chael gwared ar unrhyw rwystrau sy'n cyfyngu ar newid cadarnhaol. Bydd y cynllun yma'n cynnwys ymyraethau tymor byr effeithiol i gefnogi teuluoedd i wneud newidiadau ymarferol a chynaliadwy. 

Mae'r Garfan Teuluoedd a Mwy yn gweithio gyda theuluoedd o bob cwr o RCT y nodwyd bod angen ymyrraeth ddwys arnyn nhw yn dilyn yr asesiad cychwynnol, h.y. lle mae angen cymorth ar gyfer anghenion cymhleth neu anghenion sydd wedi'u hen sefydlu. Mae'n bosibl efallai fod achosion y teuluoedd yma wedi cael eu hisraddio o ymyrraeth gan y Gwasanaethau i Blant, neu'u bod wedi cael eu hatgyfeirio at y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, ond heb gyrraedd y trothwy ar gyfer ymyrraeth gan y Gwasanaethau i Blant. 

Mae'r Garfan Teuluoedd a Mwy yn cynnwys Gweithwyr Ymyrraeth a fydd yn cynnig pecyn dwys tymor byr o gymorth i deuluoedd er mwyn adeiladu ymgysylltiad cadarnhaol a gostwng lefelau risg. 

Mae'r Garfan Gwasanaeth Plant ag Anghenion Ychwanegol (CANS) yn gweithio gyda theuluoedd ar draws RhCT lle mae anghenion nam niwroddatblygiadol, gwybyddol neu gorfforol eu plentyn neu blant o dan y trothwy statudol ar gyfer ymyrraeth. Mae modd i CANS helpu'r teulu gyda chymorth arbenigol i ddeall a rheoli anghenion eu plentyn a/neu fynd i'r afael â'r effaith y mae hyn yn ei chael ar y teulu ehangach. Mae'r Garfan CANS yn cynnwys gweithwyr ymyrraeth a fydd yn darparu pecynnau dwys tymor byr pwrpasol o gymorth arbenigol i deuluoedd sy'n canolbwyntio ar ddatblygu strategaethau i wella ansawdd bywyd teuluol.  

Mae'r Garfan Teuluoedd yn gweithio gyda theuluoedd o bob rhan o RhCT y nodwyd bod angen ymyrraeth gynnar arnyn nhw yn dilyn asesiad, h.y. lle mae angen cymorth amlasiantaeth cydgysylltiedig. Mae’r garfan Teuluoedd yn darparu pwynt cyswllt canolog, yn eirioli dros deuluoedd, yn rhoi cymorth uniongyrchol ac yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid eraill i sicrhau bod y cynllun ymyrraeth yn cael ei gyflawni’n effeithiol. 

Sut mae modd i mi gael fy atgyfeirio?

Mae modd i chi gael eich atgyfeirio am gymorth mewn sawl ffordd wahanol:

  • Trwy eich Ymwelydd Iechyd
  • Trwy eich ysgol. Trwy siarad ag aelod o staff
  • Trwy eich Gweithiwr Cymdeithasol. Mae'n bosibl y byddwch chi'n cael eich atgyfeirio fel rhan o'r gwasanaeth 'cam i lawr' gan y Gwasanaethau i Blant
  • Trwy'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid
  • Trwy'r Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles
  • Trwy'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifainc (CAMHS)
  • Mae modd i rieni a gwarcheidwaid wneud hunan-atgyfeiriad trwy ffonio 01443 425006.

Mae nifer o'n hachlysuron yn y gymuned yn achlysuron galw heibio, felly mae croeso i chi alw heibio heb atgyfeiriad! Bwriwch olwg ar ein calendr achlysuron i ddysgu rhagor am unrhyw achlysuron galw heibio sy'n cael eu cynnal yn eich ardal chi.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi gael fy atgyfeirio? 

Ar ôl i chi gael eich atgyfeirio, bydd eich achos chi'n cael ei drafod gan ein gweithwyr proffesiynol yn rhan o'r Garfan Gwybodaeth, Cyngor ac Asesu a byddan nhw'n penderfynu p'un a oes modd cynnig y cymorth cywir i chi ar yr adeg yma. Os nad oes modd i ni gynnig y cymorth cywir, mae'n bosibl y byddwch chi'n cael eich cyfeirio i wasanaeth cymorth addas. Byddwch chi a'ch atgyfeiriwr yn derbyn llythyr i roi gwybod i chi os yw eich cais am atgyfeiriad wedi'i dderbyn neu ei wrthod. Bydd angen i chi gydsynio i'r atgyfeiriad.

Beth sy'n digwydd os yw fy nghais am atgyfeiriad yn cael ei dderbyn?

Ar ôl i chi gael gwybod bod eich atgyfeiriad wedi'i dderbyn, bydd gweithiwr achos yn cael ei benodi i chi. Mae modd i'r cymorth bara 6–12 wythnos. Mae cymorth un wrth un fel arfer yn digwydd yn eich cartref neu rhywle lle rydych chi'n teimlo'n gyfforddus.

Sut byddwch chi'n rhoi cymorth i mi?

Bydd y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn canolbwyntio ar wella cydnerthedd y teulu, felly bydd y cymorth sy'n cael ei ddarparu wedi'i deilwra ar eich cyfer chi.

Byddwn ni'n cysylltu â chi i drefnu Asesiad Cychwynnol a bydd hyn yn cael ei gynnal gan Swyddog Ymgysylltu ac Asesu gyda'ch teulu. Unwaith y bydd yr asesiad wedi'i gynnal, bydd ein carfan ni'n nodi ambell i amcan/nod a chamau gweithredu personol i wella cydnerthedd eich teulu chi. Bydd y rhain yn cael eu cynnwys mewn Cynllun Gweithredu. Byddwn ni'n gofyn i chi os ydych chi'n cytuno â'r camau gweithredu cyn i unrhyw waith gael ei wneud. Mae'n bosibl y bydd angen cymorth gan wasanaethau eraill fel y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid. Peidiwch â phoeni, mae modd i ni ofyn i'r gwasanaethau eraill yma eich helpu chi os ydych chi'n cytuno i hyn.

Ar y pwynt yma, bydd Gweithiwr Ymyrraeth yn cael ei benodi i chi. Y Gweithiwr Ymyrraeth fydd eich pwynt cyswllt unigol chi, a bydd ef/hi yn eich helpu chi drwy eich Cynllun Gweithredu ac yn eich helpu chi i gael mynediad at wasanaethau eraill, os oes angen.

Beth yw Cydnerthedd?

Mae bod yn gydnerth yn golygu eich bod chi mewn sefyllfa well i ymateb i sefyllfaoedd heriol. Mae'n sgìl allweddol sy'n aml yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Iechyd meddwl gwell
  • Cysylltiadau teuluol gwell
  • Deilliannau hirdymor iachach i blant

Mae modd i'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth eich helpu chi i wella'ch cydnerthedd fel eich bod chi'n fwy hyderus ac yn meddu ar y sgiliau i ymdopi â phopeth sy'n codi mewn bywyd teuluol.

Pa wasanaethau eraill y mae modd i mi gael mynediad atyn nhw gyda'ch cymorth chi?

Yn rhan o'r broses asesu, byddwn ni'n gofyn i wasanaethau eraill os ydyn nhw'n teimlo bod modd iddyn nhw ddarparu cymorth i'ch teulu chi. Byddwn ni ond yn gofyn i'r gwasanaethau yma os ydych chi'n cytuno i hynny ddigwydd yn gyntaf. Mae modd i'r gwasanaethau hyn gynnwys:

  • Addysg
  • Cymorth Rhianta
  • Therapi i'r Teulu
  • Canolfan Cyngor ar Bopeth
  • Iechyd
  • Tai
  • Gofal Plant
  • Y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid
  • Chwarae
  • Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc

Mae modd i'r cymorth gan wasanaethau eraill barhau, hyd yn oed ar ôl i'n cymorth ni ddod i ben.

Beth sy'n digwydd ar ddiwedd y cyfnod o gymorth?

Ar ddiwedd eich cyfnod o gymorth, byddwch chi'n cael eich gwerthuso. Bydd hyn yn eich galluogi chi i weld i ba raddau y mae eich cydnerthedd wedi gwella. Os oes angen rhagor o gymorth, mae modd i ni eich cyfeirio chi at wasanaethau eraill sy'n gallu'ch helpu chi.

Arolwg i Ddefnyddwyr y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth

Hoffai'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth geisio'ch barn a'ch profiadau er mwyn dysgu rhagor am sut mae cymorth y gwasanaeth yn diwallu'ch anghenion.

Os ydych chi'n derbyn cymorth, neu wedi derbyn cymorth, gan unrhyw un o ddarpariaethau'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, dyma gyfle i chi ddweud eich dweud trwy sganio'r cod QR gyda'ch ffôn neu drwy glicio ar y ddolen isod.

https://RCTCBC.welcomesyourfeedback.net/j90nmx

Beth sy'n digwydd os byddaf i'n colli apwyntiadau?

Yn anffodus, bydd angen i chi ymgysylltu â ni er mwyn i ni eich helpu chi. Os does dim modd i chi fynd i apwyntiad, bydd angen i chi roi gwybod i'ch gweithiwr achos fel bod modd iddyn nhw aildrefnu ar gyfer dyddiad arall. Os fyddwch chi ddim yn mynd i sawl apwyntiad, bydd eich atgyfeiriad yn dod i ben a bydd eich atgyfeiriwr a'ch rhiant neu warcheidwad yn derbyn llythyr i roi gwybod iddyn nhw.

Rydw i wedi derbyn cymorth gan y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn y gorffennol. Oes modd i mi gael fy atgyfeirio eto?

Os oes angen cymorth arnoch chi ar gyfer yr un mater, bydd yn rhaid i chi aros 3 mis cyn y bydd modd i ni ystyried atgyfeiriad arall. Fodd bynnag, os oes angen cymorth ar gyfer mater hollol wahanol, mae modd i chi gael eich atgyfeirio yn ôl i'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth ar unwaith.

Sut i gysylltu â ni 

Ffôn: 01443 281435
E-bost: gtc@rctcbc.gov.uk