Chwilio am wybodaeth?

Croeso i'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Mae'n cynnig gwasanaeth gwybodaeth a chyfeirio am ddim i BOB rhiant, cynhaliwr (gofalwr) a gwarcheidwad yn Rhondda Cynon Taf. 

Family info service logo_NEW

Rydyn ni wedi llunio rhestr o'r pethau sy'n codi amlaf yn yr ymholiadau rydyn ni'n eu derbyn. Os does dim modd i chi ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano, mae ein manylion cyswllt ar waelod y dudalen. 

Gofal Plant
Cymorth ariannol i deuluoedd
Addysg
Pethau i'w gwneud yn RhCT
Gwasanaethau Cymorth
Awgrymiadau Rhianta
Cyrsiau Rhianta
Cyngor a syniadau ar gyfer plant a phobl ifainc
Sut i gysylltu â ni

Gofal Plant

Mae modd eich cyfeirio chi i ddod o hyd i'r darparwr gofal plant cywir i chi, gwneud cais am gymorth ariannol neu leoedd gofal plant am ddim, neu ddod o hyd i wybodaeth ar sut y mae modd i chi ddechrau gyrfa mewn gofal plant. 

Dod o hyd i ddarparwr gofal plant 

Defnyddiwch gronfa ddata DEWIS i ddod o hyd i'r gofal plant cywir i chi, gan gynnwys meithrinfeydd, gwarchodwyr plant, cylchoedd chwarae, clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol 

Cymorth Ariannol ar gyfer Gofal Plant, neu Ofal Plant am ddim 

Mae cymorth ar gael i deuluoedd gael manteisio ar leoliadau gofal plant wedi'u hariannu yn Rhondda Cynon Taf, ac mae'r cymorth yma'n amrywio yn ôl oedran eich plentyn. 

  • Mae Gofal Plant Di-dreth yn gynllun gan y llywodraeth sydd â'r modd i helpu gyda chostau gofal plant i bob oed. 
  • Mae cynllun Dechrau'n Deg yn cynnig lleoliadau gofal plant wedi'u hariannu i deuluoedd cymwys yn Rhondda Cynon Taf o'r tymor ar ôl i'ch plentyn chi droi'n 2 oed tan ddiwedd y tymor pan fydd yn troi'n 3 oed. 
    • Mae’r Cynnig Gofal Plant i Gymru (30 awr o ofal plant) yn cynnig lleoliadau gofal plant wedi’u hariannu i deuluoedd cymwys yn Rhondda Cynon Taf o’r tymor ar ôl i’ch plentyn droi’n 3 oed tan y mis Medi yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed. 
    COFW Logo 2024

Gyrfaoedd Gofal Plant

Mae modd i garfan Gofal Plant Rhondda Cynon Taf eich cefnogi chi i ddatblygu gyrfa yn y maes gwarchod plant. 

Cymorth ariannol i deuluoedd 

Mae modd i fagu plant fod yn gostus, ond a oeddech chi'n gwybod bod cymorth ariannol i deuluoedd?
Dyma gynlluniau a mentrau sydd â'r modd i helpu i roi cymorth i deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf:

Cymorth Ariannol ar gyfer Gofal Plant 

Mae cymorth ar gael i deuluoedd gael manteisio ar leoliadau gofal plant wedi'u hariannu yn Rhondda Cynon Taf. 

Cymorth Ariannol i Deuluoedd â Phlant mewn Addysg 

Mae sawl ffordd y mae modd i deuluoedd gael cymorth ariannol os oes ganddyn nhw blant mewn addysg. 

Budd-daliadau, Gostyngiadau a Chredydau Treth 

Mae amrywiaeth o fudd-daliadau neu gredydau treth y mae modd i deuluoedd wneud cais ar eu cyfer nhw. Mae modd i chi wirio bob un am y meini prawf. 

Grantiau a Benthyciadau 

Mae modd i deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf fanteisio ar amrywiaeth o grantiau neu fenthyciadau yn ôl eu hamgylchiadau. 

Mae modd i boeni am arian eich rhoi chi o dan straen aruthrol. Mae llawer o wasanaethau yn RhCT sydd â'r modd i roi cyngor a chymorth ariannol i deuluoedd. Rydyn ni wedi eu rhoi nhw i gyd mewn un lle fel bod modd i chi benderfynu'n gyflym p'un sydd orau i chi.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dudalen we sy'n canolbwyntio ar gyngor i ddefnyddwyr a materion ariannol

Mae modd i Cyngor ar Bopeth yn RhCT eich helpu gyda'r canlynol: 

  • Budd-daliadau 
  • Dyled 
  • Tai 
  • Materion defnyddwyr 
  • Tocynnau parcio

Mae gan y GIG gyngor ar sut i ymdopi â phryderon ariannol. 

Mae gan Shelter Cymru adnoddau a chyngor o'u swyddfa ar y canlynol: 

  • Cymorth brys gydag arian 
  • Dyled 
  • Morgeisi 
  • Cyngor Ariannol 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o gardiau teithio am bris gostyngol, megis y rhai canlynol: 

  • Cerdyn Rheilffordd i Ddau Berson (Two Together Railcard) 
  • 16-17 Saver
  • Cerdyn Rheilffordd 16–25 
  • Cerdyn Rheilffordd 26–30 
  • Teulu a Chyfeillion 
  • Pobl dros 60 oed 
  • Pobl Anabl 
  • Canolfan Byd Gwaith 
  • Myfyrwyr 
  • Cyn-filwyr 

Addysg

Os yw'ch plentyn chi'n mynd i'r ysgol yn Rhondda Cynon Taf, mae llawer o wybodaeth ar wefan Rhondda Cynon Taf i'ch helpu chi. 

Mae yna hefyd gymorth ariannol a gwasanaethau am ddim ar gael i deuluoedd â phlant yn ysgolion RhCT. 

Prydau Ysgol am Ddim 

Os dechreuodd eich plentyn chi yn y Dosbarth Derbyn yn ystod neu ar ôl mis Medi 2022, bydd yn gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim i Bob Disgybl Ysgol Gynradd

Ar gyfer pob blwyddyn ysgol arall, efallai y byddwch chi'n gymwys i wneud cais am brydau ysgol am ddim

Clybiau brecwast am ddim 

Nod y cynllun clybiau brecwast am ddim yw darparu cyfle i ddisgyblion ysgolion cynradd i gael brecwast iach, am ddim yn yr ysgol bob dydd. 

Cludiant i'r Ysgol/Coleg am ddim 

Mae'n bosibl y bydd eich plentyn chi'n gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol neu'r coleg, yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. 

Gwisg Ysgol ac Adnoddau 

Efallai y byddwch chi'n gymwys i fanteisio ar y Grant Datblygu Disgyblion yn Rhondda Cynon Taf os ydych chi ar incwm isel i helpu i brynu gwisg ysgol ac adnoddau. 

Prynu Offeryn Cerdd 

Mae modd i ddisgyblion sy'n cael gwersi offeryn yn yr ysgol arbed llawer o arian os yw'n prynu offeryn newydd drwy'r Cynllun Cymorth i Brynu Offeryn

Gofal Plant ar gyfer Lleoliad Addysg Rhan-amser 

Os yw'ch plentyn chi rhwng 3 a 4 oed ac yn mynd i, neu ar fin dechrau mynd i, leoliad addysg mewn ysgol neu ddarparwr addysg cofrestredig yn rhan amser, efallai y byddwch chi'n gymwys i gael gofal plant wedi'i ariannu drwy'r Cynnig Gofal Plant i Gymru

Addysg Cyfrwng Cymraeg

Mae addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bob plentyn yma yn Rhondda Cynon Taf. Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cynnig nifer o fuddion ychwanegol i blentyn. Mae llawer o wybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg ar gael, gan gynnwys addysg y blynyddoedd cynnar ac ysgolion uwchradd, ac mae hefyd ystod o gymorth ychwanegol ar gael.

Pethau i'w gwneud yn Rhondda Cynon Taf 

Mae gan Rondda Cynon Taf lawer o lefydd i weld, gyda gweithgareddau sy'n addas i deuluoedd a grwpiau. Darllenwch ein hadran 'Pethau i'w gwneud gyda'ch gilydd' am syniadau ar ble i fynd a gweithgareddau i'w gwneud gartref. Mae modd i chi hyd yn oed chwilio am bethau yn eich ardal leol, fel cylchoedd chwarae, cynlluniau chwarae a rhagor! 

Gwasanaethau Cymorth

Mae'r Garfan Llesiant a Chydnerthedd y Gymuned yn cynnig cymorth i blant, pobl ifainc, a theuluoedd yn RhCT. Mynnwch olwg ar ein Gwasanaethau Cymorth a'r hyn y mae modd i ni ei gynnig i chi. 

Awgrymiadau Rhianta

Mae gyda ni lwyth o awgrymiadau rhianta bydd yn eich helpu chi a'ch plentyn i fyw bywyd hapus ac iach. Mynnwch olwg ar ein hadran 'Awgrymiadau i Rieni

Cyrsiau Rhianta 

Mae gyda ni gynlluniau a chyrsiau arbenigol i deuluoedd, rhieni a phlant o bob oed. Mynnwch olwg ar ein hadran 'Rhaglenni a Chyrsiau'. 

Cyngor a Syniadau i Blant a Phobl Ifainc

Os ydych chi'n chwilio am gyngor, cymorth neu syniadau sy'n addas ar gyfer plant a phobl ifainc hyd at 25 oed, mynnwch olwg ar ein hadran 'Plant a Phobl Ifainc'. 

Sut i gysylltu â ni

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 

E-bost: GwasanaethGwybodaethiDeuluoedd@rctcbc.gov.uk
Rhadffôn: 0800 180 4151 
Rhadffôn ar ffôn symudol: 0300 111 4151

Mae DEWIS yn gronfa ddata o'r holl wasanaethau sydd â'r modd i'ch helpu chi yn eich ardal. Dewch o hyd i wasanaethau a all fod o fudd i chi.

Tudalennau yn yr Adran Hon